Canolfan Ragoriaeth Bioburo BEACON - partneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Abertawe a Phrifysgol De Cymru.
Ar 1 Gorffennaf 2019, daeth Canolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anaerobig PDC yn aelod o bartneriaeth gydweithredol rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe a Phrifysgol De Cymru gan weithio ym maes trosi biomas a biowastraff yn gynhyrchion bio-seiliedig gyda chymwysiadau masnachol.
Mae Beacon yn bennaf yn helpu busnesau Cymreig i archwilio cyfleoedd bio-seiliedig ar gyfer twf trwy ddarparu mynediad at offer arbenigol eang ac arbenigedd gwyddonol yn ein pedwar sefydliad partner.
Gallwn helpu:
- Busnesau i roi gwerth ar eu ffrydiau gwastraff, gan ennill gwerth ychwanegol o sgil-gynhyrchion eu prosesau gweithgynhyrchu
- Y diwydiannau Adeiladu, Pecynnu a Gweithgynhyrchu trwy ddatblygu deunyddiau biogyfansawdd newydd
- Y diwydiant Biowyddoniaeth trwy ddatblygu systemau a thechnolegau microbaidd neu ensymau newydd ar gyfer prosesu biomas
- Y diwydiant cemegol drwy ddarparu ffynonellau newydd o gemegau ‘gwyrdd’
- Cynhyrchwyr tanwydd drwy gynnig tanwydd ‘gwyrdd’, sy’n effeithio ar y Rhwymedigaeth Tanwydd Cludiant Adnewyddadwy (RTFO) a lleihau allyriadau carbon
- Cynhyrchwyr ynni trwy dreialu gwahanol stociau porthiant a chnydau bio-ynni
- Cymunedau gwledig trwy gymhwyso technoleg bioburfa i brosesu cnydau nad ydynt yn fwyd
Gall partneriaid BEACON ymgymryd â:
- Ffurfio biogyfansoddion newydd
- Allwthio/bioblastigau
- Cemegau/cymwysiadau newydd
- Peirianneg fetabolaidd murumau
- Modelu protein fel ensymau newydd, e.e. ar gyfer diwydiant bwyd neu fiobrosesu
Mae Canolfan TA Cymru yn PDC yn canolbwyntio ar atebion technolegol ar gyfer:
- Trosiadau biolegol defnyddiau yn danwydd, polymerau, rhan-gynnyrch neu gynhyrchion newydd
- Optimeiddio prosesau biodrosi diwydiannol
- Integreiddio gwerth ychwanegol â diwydiannau allweddol eraill (e.e. ynni adnewyddadwy a’r sector cemegol a phlastigau gwyrdd)
Prosiect partners:
Ariennir y prosiect gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop