Biomethaneiddio a Phŵer i Nwy
Cynhyrchu Methan Carbon Isel o Drydan Adnewyddadwy neu Nwyon Diwydiannol a ollyngir
Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan TA wedi datblygu proses 'Biomethaneiddio' sy'n cyfuno nwyon yn fiolegol gan gynnwys carbon deuocsid neu garbon monocsid gyda hydrogen i gynhyrchu nwy methan. Lle mae’r hydrogen yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio trydan adnewyddadwy (e.e. gan ddefnyddio electrolyser) neu lle mae nwyon yn cael eu hadennill o broses ddiwydiannol, byddai’r methan a gynhyrchir yn cael ei ystyried yn ‘wyrdd’ neu garbon isel.
Ein gweledigaeth ar gyfer y broses biomethaneiddio yw cyfrannu at yr ateb i broblemau gan gynnwys:
- Cyfyngiadau Grid Trydan sy'n cyfyngu ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy - Gallai eich arae PV neu fferm wynt gynhyrchu nwy.
- Optimeiddio Cynhyrchiant Seilwaith Trydan Adnewyddadwy - Cynhyrchu nwy yn lle cwtogi ar drydan.
- 'Gwyrddhau' y grid nwy - mwyhau swm o nwy carbon isel yn y grid nwy.
Mae'r broses wedi'i phrofi ar raddfa labordy i allu cynhyrchu 99% o fethan, ei bod yn oddefgar i halogion fel hydrogen sylffid, yn oddefgar o gyfnodau estynedig o anweithgarwch ac mae ganddi ôl troed proses fach.
Mae'r broses a ddatblygwyd yn PDC wedi'i nodi fel y broses "Aeriogen" ac mae'n destun cais Patent y DU a Rhyngwladol.
Video Biomethaneiddio a Phŵer i Nwy: