Bio-polymerau a Chynhyrchion Newydd
Creu'r Genhedlaeth Nesaf o Bolymerau Bioddiraddadwy
Mae bio-polymerau yn bolymerau a gynhyrchir gan broses fiolegol yn hytrach na mireinio hydrocarbonau fel sy'n wir am bolymerau confensiynol a phlastigau.
Mae'r Ganolfan TA wedi bod yn ymchwilio ac yn datblygu prosesau i gynhyrchu bio-polymerau gan ddefnyddio deunyddiau gwastraff a nwyon fel y ffynhonnell garbon a maetholion sydd eu hangen ar y microbau sy'n cynhyrchu'r polymer ei hun. Mae'r Ganolfan wedi cyflawni ymchwil ar y cyd ag ystod o randdeiliaid diwydiannol o beirianwyr proses i ddefnyddwyr terfynol.
Gelwir y polymer a gynhyrchir yn fras yn PHA (Polyhydroxyalkanoate), ond gellir newid ei union briodweddau ffisegol a chemegol yn unol ag amodau'r broses weithgynhyrchu. Mae PHA yn fioddiraddadwy o dan amodau anaerobig ac yn fiogydnaws. Gellir addasu ei briodweddau hefyd gan ddefnyddio ychwanegion i fodloni ystod o feini prawf perfformiad.