Technolegau
Mae treulio anaerobig yn broses lle mae defnyddiau bioddiraddadwy (porthiant) yn cael eu dadelfennu mewn treulwyr anaerobig gan facteria yn absenoldeb ocsigen, o dan amodau a reolir yn ofalus (e.e. rheoli tymheredd).
Mae'r stociau porthiant y gellir eu treulio yn cynnwys y canlynol; Tail a slyri amaethyddol, llaid carthion, gwastraff arlwyo, gwastraff organig masnachol a diwydiannol, gwastraff trefol wedi’i wahanu yn y tarddle neu wedi’i wahanu’n ganolog, silwair a chnydau a dyfir yn benodol ar gyfer TA e.e. india-corn, gwenith a glaswellt. Yn y pen draw, trawsnewidir deunyddiau bioddiraddadwy yn fio-nwy ac yn weddillion treuliad anaerobig cyfan.
Gellir defnyddio'r bionwy llawn methan i gynhyrchu gwres a thrydan. Gellir hefyd ei uwchraddio a'i ddefnyddio fel tanwydd cerbyd neu ei chwistrellu'n uniongyrchol i bibellau nwy naturiol.
Mae gweddillion treuliad anaerobig yn ffynhonnell gyfoethog o faetholion (e.e. nitrogen, ffosfforws a photasiwm) a gellir eu defnyddio yn lle gwrtaith cemegol. Mae cyhoeddi’r Protocol Ansawdd (PAS 110) ar gyfer gweddillion treulio anaerobig a’r Protocol Ansawdd Treulio Anerobig (ADQP) wedi helpu i egluro a ystyrir treulio yn wastraff neu’n gynnyrch gwerthfawr y gellir ei ddefnyddio fel biowrtaith. Mae cydymffurfio â'r safonau hyn yn caniatáu i'r gweddillion treulio anaerobig beidio â chael eu trin fel gwastraff.
Defnyddir TA yn eang mewn llawer o wledydd. Mae gan y diwydiant dŵr yn y DU eisoes system sefydledig o weithfeydd treulio anaerobig sy’n trin tua 66% o slwtsh carthion y wlad.
Mae TA yn dechnoleg unigryw gan ei fod yn gyfle i ddargyfeirio gwastraff trefol bioddiraddadwy o safleoedd tirlenwi, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, a chynhyrchu cyflyrydd pridd sy'n fuddiol yn amaethyddol (yn dibynnu ar ansawdd y porthiant). Mae treulio anaerobig felly yn gallu helpu i gyrraedd targedau lluosog y llywodraeth drwy gynhyrchu cyflenwad sicr o ynni adnewyddadwy a gwrtaith tanwydd di-ffosil, tra ar yr un pryd yn lleihau gwastraff ac allyriadau methan sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o systemau anaerobig sydd ar gael ac ar y defnydd o fio-nwy a gweddillion treuliad, defnyddiwch y dolenni isod.
(MAE POB UN O'R CYSYLLTIADAU HYN I DUDALEN ARALL YN DESTUN YN BENNAF OND YN CYNNWYS ASTUDIAETHAU ACHOS HEFYD)