Mae Canolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anaerobig yn darparu ystod eang o gymorth technegol ac annhechnegol i randdeiliaid TA a bio-nwy. Mae'r gefnogaeth a ddarparwn yn gwbl annibynnol. Nid ydym yn gysylltiedig ag unrhyw gyflenwyr, gwneuthurwyr neu fathau o dechnoleg. Mae sawl ffordd o ddylunio a gweithredu gwaith TA, a dylid gwerthuso pob cynllun fesul achos.
CYMORTH TECHNEGOL A DADANSODDI
Mae'r Ganolfan TA yn cynnal gwaith ymchwil a datblygu wedi'i dargedu ar y cyd â diwydiant i wella effeithlonrwydd prosesau treulio anaerobig ac i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau arloesol ar draws y sector TA a biotechnoleg ddiwydiannol.
Mae gan y Ganolfan TA offer a chyfleusterau o'r radd flaenaf, ac mae'n un o'r labordai â'r offer gorau yn y wlad sy'n llwyr ymroddedig i ddatblygu prosesau anaerobig gwell ac arloesol a hyrwyddo'r defnydd effeithlon o allbynnau prosesau. Mae hyn, ynghyd â dros ddeugain mlynedd o arbenigedd ymchwil a datblygu a gwybodaeth gref am y diwydiant, yn golygu bod y Ganolfan mewn sefyllfa dda i gefnogi anghenion y diwydiant treulio anaerobig a bionwy cynyddol. Mae ein gwasanaethau wedi'u teilwra i'ch anghenion, ond mae gweithgareddau nodweddiadol yn cynnwys:
- Astudiaethau Cynnyrch a Phrosesau Profi Cysyniad
- Datblygu integreiddiad newydd o dechnolegau treulio anaerobig/diwydiannol/ynni adnewyddadwy
- Gwiriadau iechyd treulio anaerobig, rhaglenni monitro ac optimeiddio prosesau
- Datblygu methodolegau monitro a rheoli ar gyfer gweithfeydd TA
- Nodweddu swbstradau, matricsau treulio/adweithydd a gweddillion treuliad anaerobig
- Profi bioddiraddadwyedd
- Astudiaethau ar raddfa beilot
- Gwerthuso opsiynau cyn-driniaeth
- Monitro a chyfoethogi poblogaethau microbaidd
- Astudiaethau rhwystrau
- Datblygu Canllawiau a Dogfennau Arfer Gorau
- Asesiad Cylch Bywyd o Brosesau a Chynhyrchion
SUT I YMGYSYLLTU Â'R GANOLFAN TA
Mae’r Ganolfan yma i helpu diwydiant i gael mynediad at y cyfoeth o wybodaeth academaidd ac arbenigedd a gasglwyd dros y 40 mlynedd diwethaf o weithgarwch ymchwil yn y maes hwn ac mae’n datblygu’n barhaus. Mae yna nifer o ffyrdd o ymgysylltu â ni gan gynnwys:
- Ysgoloriaethau MPhil a PhD (rhaglenni ymchwil 18 mis - 3 blynedd)
- Prosiectau Ymchwil a Datblygu Cydweithredol a Ariennir (e.e. IUK, EPSRC, BBSRC, H2020)
- Ymgynghoriaeth Fasnachol
Rydym wedi llwyddo i gyflawni prosiectau sy'n berthnasol yn ddiwydiannol, yn amrywio o ran gwerth o ychydig filoedd o bunnoedd i filiynau o bunnoedd. Mae croeso i chi gysylltu â ni am sgwrs anffurfiol am eich gofynion.